|
Y
DDINAS DDUR
gan
A. Gwen Jones. Rhagfyr 15 1943 Rehearsa1: 4.0 p.m. Pan
g1ywaf ar y radio yr enwau Kieff, Charkov, Krivol-Rog ac yn enwedig Stalino, y
ddinas ddur, a’r newyddion am lwyddiant y Rwsiaid yno, bydd fy meddwl yn mynd
‘nol dros hanner can mlynedd, a daw darluniau byw o’r llefydd hyn o flaen fy
llygaid. Pan glywais fod Stalino wedi ei ail gymryd gan y Rwsiaid, meddyliais am
y Stalino yr oeddwn yn nabod mor dda, canys bum yn byw yno yn ferch ifanc am
dair blynedd, ond enw arall. oedd i’r lle yr amser hwnnw - sef Hughesovka,
tref a alwyd felly fel nod o anrhydedd i’w sylfaenydd, Cymro o Ferthyr o’r
enw John Hughes. Engineer oedd John
Hughes a dynnodd sylw’r Tzar Alexander yr ail trydydd, a’r 1lywodraeth
Rwsiaid, trwy ei allu technegol pan oedd yn arolygydd y Millwall Docks, Llundain.
Yr oedd llywodraeth Rwsia yn awyddus i ehangu eu rheilffyrdd ac i ddatblygu
gweithfeydd haearn a glo yn eu gwlad eu hun. Cofiaf glywed yn aml fel y
gwahoddwyd Mr. Hughes i sefydlu gweithfeydd yn Rwsia; yn wir ‘rwy’n cofion
dda y plaque arian a roddodd y Tzar iddo fel anrheg.
Derbyniodd Mr. Hughes y gwahoddiad ac aeth o amgyich y wlad, a dewisodd
fan ar wastadeddau unig y Steppes, yn neheudir Rwsia, lle nad oedd and bugail
a’i gi i’w gwelod. Ond yr oedd y lle hwn yn gyfoethog mewn glo a haearn, ac
heb fod ymhell o Daganrog a Mariupol, porthladdoedd ar fôr Azov. Nid oedd
mwngloddiau haearn Krivoi-Rog ymhell iawn a daethant hwythau yn eiddo I Gwmni
Newydd Rwsla. — y Novorossiskoe Obshchestvo, a ffurfiwyd yn 1869. ‘Rwy’n
cofio i ni ymwe1ed a Chrivoi-Rog yn 1892. Yn
1889 pan gyrhaeddais Hughesovka yr oedd y boblogaeth wedi cynyddu o ddim i
oddeutu hanner can mil, (50,000) a’glofeydd a’r gweithfeydd haearn a dur ar
lawn waith. Mae Stalino n’awr yri un o brif ganolfarmau rheilffyrdd dyffryn
Donetz, ond yn1889 yr unig reilffyrdd i’r de oedd iTaganrog a Mariupo1 – y
stesion agosaf ar llinell i’r gogleddd trwy Charkov oedd Charsisky. Yr oeddom
yn dyrfa o bob gwlad ac laith — ( Rwsiaid, Pwyliaid, Ellmyn, Belgiaid~ Iddewon,
Tartariaidd a Georgiaid o Tiflis yn y Caucasus cartref Stalin) ac yn eu mysg
gwnni bychan o Saeson a Chymry. Daeth John Hughes a gweithwyr profiadol. gydag e
o Ddowlais, Merthyr a Rhymney yr amser hwnnw yr oedd tua deg a thrigan o Gymry
yno, ond clywais fod yna fwy un adeg. ‘Rwy’n cofio rhai ohonynt
Mr. Watkins a briododd Miss Curtis o Rhymney. Mr. Holland a fu yn Gemiat yng
ngweithfeydd Dowlais, y teulu James ac erail]. • Ond y gwr a gofiaf orau oedd
John John o Ddowlais, Cymro o’r math gorau, dyn y gellid ymddiried ~ynddo’n
drvryadl. Byddwn yn mwynhau siarad gydag e yn Gymraeg. Yr amser yna nid oedd y
gweithwyr yn cael eu talu ond un waith y mis ac yr oedd arian y cyflogau yn dod
o Daganrog o dan warchod. Bu John Hughes farw ym Mehefln 1889, ychydig fisoedd
cyn i mi gyrraedd Hughesovka fel athrawes i ddwy ferch Ifanc Mr. a Mrs. Arthur
Hughes. Yr ail o bedwar mab John Hughes oedd Arthur Hughes; a ‘r wraig oedd
Miss Augusta James o Lanovor, Sir Fynwy. Diddorol
i lawer Cymro ydyw’r ffaith mai’r bardd Islwyn a’u priododd. Gyda llaw
trwy bregethwr mawr arall y Parch. Dr. Saunders, Abertawe, yn an-union~gyrcho1,
y cefais i’r cyfle i fynd i Rwsia. Cofiaf
y daith hir araf gyda’r teulu trwy Ewrop, gan aros rhai dyddiau yn
Berlin, Warsaw (lle y collais fy ffordd a chael fy hunan yn y Ghetto), wedyn
Kieff a Charkov Daw darlun byw o dref hynafol. a sanctaidd Kieff o flaen fy
llygald; croesi’r afon lydan y Dnieper, ac edmygu’r llu mawr o eglwys I
gyda’u tyrrau a tu domes euraidd yn disgleirio yn yr awyr las,
Gwelais yno dorf o bererinion wedi cerdded ar hyd y ffordd o Siberia bell. Yna
Charkov gyda’i Phrifysgol ardderchog a’i ffeiriau byd-enwog, O’r
diwedd cyrraedd gorsaf Charsisky wedi llwyr flino. Yno yr oedd cerbydau yn in
cyfarfod i fynd â ni i Hughes ovka. Nid
anghofiaf byth y teimlad o unigrwydd llethol a’m llanwodd wrth deithio dros
wastadoddau llwm, digoed, diderfyn y Steppes; dim rhyfedd i hiraeth am Gymru
bron fy llwyr orchfygu. Ond
bu’r diddordob yn y bywyd diarth oedd o em hamgylch a’r awydd
naturiol i weld popeth newydd yn help i mi deimlo’n gartrefol Hughesovka. Yr
oeddem yn byw mewn tý’ mawr ynghanol gardd eang a waliau uchol o’i gwmpas
er mwyn diogelwch, ac yr oedd yna wylwyr yn edrych ar o1 y lle dros y nos, ond
ni eflid dibynnu arnynt bob amser. Nid
anghofiaf chwaith y sglefrio ar lyn y gwaith, a’n teithiau ar sledges dros yr
eira disglair, gyda chlychau’rtroika, y tri ceffyl yn canu’n felodaidd yn yr
awyr glir. Yr oedd yna dipyn o flas anturiaoth mewn sledgo dros y steppes, gan y
byddai llawer o gŵn hanner bleiddiaid weithiau yn ein dilyn a rhaid oedd i
Ivan, in gyrrwr ddefnyddio’r whip I’w cadwtn ôl. Pan
oeddwn yn byw yn Rwsla nid oedd ond dau ddosbarth o bobl.
Yr oeddem ni mewn safle i weld y gwahaniaeth mawr oedd rhwng y ddau.
Yr oedd safon bywyd ymysg y mujiks - y bobl gyffredin yn isel iawn ac nid oedd
newyn yn beth anghyffredin mewn rhai ardaloedd. Yr oeddynt yn byw mewn tai
bychain gwael o goed, gydag un llawr. Nid oedd yno ddim cyfleusterau i sicrhau
cysur ac iechyd ond yn unig stove fawr oedd bron yn llenwi’r
ystafell. Arni hi yn aml y cysgent y nos. Wrth gwrs yr oedd tai y gweithwyr yn
Hughesovka yn llawer iawn gwell. Ymhob ty chwi welech Ikon sef darlun cysegredig
ac nid yw un ty heb ei Samovar, lle stri I wneuthur tê. Yr oeddwn yn hoffi’r
mujiks; yr oeddynt yn garedig, yn ddidaro, yn wir grefyddol mewn ffordd syml a
diniwed. Gwynebant bob amlwc heb rwgnach – Nitchevo” meddant gan godi eu
hysgwyddau. Yr oeddynt yn amyneddgar a chall, yn llawn o synnwyr cyffredin a
hiwmor. Ond fe1 pob Rwsiad yn ofergoelus iawn. Ar
nosweithau pryd oedd y tywydd in braf, byddent yn cyfarfod a’i gillydd tu faes
pentref - yna byddent yn siglo ar swings a chanu gan daro dwylo, a bron wastad
yn bwyta hadau sunflowers. Byddent
yn hoff iawn o ddawnsio ac yr oeddent yr mwynhau bywyd cymdeithasol gyda’i
gilydd. Rhaid dweud fod pawb yn hoff o’r dcliod gyffredin “
Kvass” ac os gallant ei gael y ddiod gryfach byth “ Vodka.” Ar
wyliau arbennig yr oedd yn bleser edrych ar y merched yn eu gwisgoedd prydferth,
y brodwaith arnynt yn gywrain a thlws, eu gwallt wedi eu blethu’n
hardd a ribanau a beads o bob 11iw am eu gyddfau. ‘Rwy’n cofio’n arbennig
un tro pan oeddem yn mynd mewn sledge dros wastadedd y steppes inni glywed draw
yn y pellter ryw ganu trist yn torri an y distawrwydd – pobl y pentre oeddynt
yn canu am wrhydri eu cyndadau. Ni allwn anghofio ei swyn am amser maith a
byddai fy meddwl yn hedeg yn ol i Gymru a’i. thonau lleddf a hiraeth eto yn
codi yn fy mron. Yr oedd y dosbarth hwn y pryd hynny heb allu darllen.
Un o’r amryw bethau atm tarawodd yn y dref ar y cyntaf oedd
y signs ar bob siop; danlunlau oeddynt ac nid goiriau, er esiampl, an siop y
cigydd gweloch lun buwch neu ddafad, ac felly an bob siop y rheswm wrth gwrs
oedd na allent ddarllen. Mae cyfnewidiad mawr wedi dod ar y wlad yn hyn o beth.
Ar fore Sul y cynhelid y farchnad, a gwelid y sgwâr o amglych yr Eglwys o
chwech otr gloch y bore ymlaen yn llawn o bobl y wlad gyda’u
cynnyrch • Yr oedd pris pethau yn rhad iawn, ‘wydd neu dwrki am swillt a
chyw am chwecheiniog. Wrth gwrs
mewn kopecks a roubles y talwyd am danynt Mewn
cyferbyniad ‘r’ oedd y dosbarth arall yn elthriadol o ddiwylliedig.
Yr oeddynt-yn byw mewn tai mawr ar eu ystadau gyda nifer fawr o weithwyr
a morwynion. Gallent siarad sawl iaith ac yr oeddont yn darllen yn ehang.
Synnwyd fi fwy nag unwaith eu bod yn gwybod gymaint am brif ysgrifenwyr
Saesneg y dydd. Yr awdwr Rwsiad y sonient am dano fwyaf oedd Pushkin, ond
ychydig a glywais ganddynt am Tolstoi. Frangêg
oedd eu hail iaith a chlywais bron fwy o Ffrangêg nag a Rwieg. Iaith galod oedd
Rwsiog i ddysgu. Fel y dywedais yr oeddent yn hoff iawn a fiwsig a dawnaio ac yn
rhy hoff o chawareu cardiau. Pobl ddiofa a
--fater oeddent ond eto yn garedig dros ben a llawer o swyn y perthyn
iddynt. Ni
chaniata amser i mi sôn am lawer o arferion diddorol araf
y wlad; nac am y tywydd eithafol - gwres llethol yr hâf, oerni llym ac
eira dwfn y gaea’hu Clywais i wr ifanc o Rhymney golli ei fywyd mewn storm o
eira sydyn ac enbyd. Deuai gwres tanbaid yr haf â llawer o afiechyd fel,
Dysentery. Bu bron i ml farw o’r clefyd hwn ond am ofal meddyg a Armeniad a
oedd yn un o ddoctoriaid Ysbyty’r Gwaith. Yn
1892 daeth y Cholera i’r dre a gorfu i ni’r teulu iffoi o’r lle a herwydd
y Riots a achoswyd trwy ofn ac anwybodaeth. y bobl. Yr oedd y Riots yn ddigon
pwysig i Bapurau Llundain eu croniclo. Ond er gorfod gadael Rwsia fel hyn, mewn
brys, teimlwn yn eitha trist wrth ganu ffarwel i lawer o ffrindiau yno. ‘R’oeddwn
wodi cael caredigrwydd rhyfedd gan lawer yn enwedig gan Mr. a Mrs • Arthur
Hughes, ac yr oeddwn wedi dod i garu’r wlad a’i phobl, ac yn y
dyddiau diweddar hyn yr wyf yn llawenhau yn llwyddiant eithradol y Rwsiaid. |
Copyright reserved 2009 |