gan A. Gwen Jones.
Rhagfyr 15 1943
Rehearsa1: 4.0 p.m.
Pan g1ywaf ar y radio yr enwau
Kieff, Charkov, Krivol-Rog ac yn enwedig Stalino, y ddinas ddur, a’r
newyddion am lwyddiant y Rwsiaid yno, bydd fy meddwl yn mynd ‘nol dros
hanner can mlynedd, a daw darluniau byw o’r llefydd hyn o flaen fy
llygaid. Pan glywais fod Stalino wedi ei ail gymryd gan y Rwsiaid,
meddyliais am y Stalino yr oeddwn yn nabod mor dda, canys bum yn byw yno
yn ferch ifanc am dair blynedd, ond enw arall. oedd i’r lle yr amser
hwnnw - sef Hughesovka, tref a alwyd felly fel nod o anrhydedd i’w
sylfaenydd, Cymro o Ferthyr o’r enw John Hughes. Engineer oedd John
Hughes a dynnodd sylw’r Tzar Alexander yr ail trydydd, a’r 1lywodraeth
Rwsiaid, trwy ei allu technegol pan oedd yn arolygydd y Millwall Docks,
Llundain. Yr oedd llywodraeth Rwsia yn awyddus i ehangu eu rheilffyrdd
ac i ddatblygu gweithfeydd haearn a glo yn eu gwlad eu hun. Cofiaf
glywed yn aml fel y gwahoddwyd Mr. Hughes i sefydlu gweithfeydd yn
Rwsia; yn wir ‘rwy’n cofion dda y plaque arian a roddodd y Tzar iddo fel
anrheg. Derbyniodd Mr. Hughes y gwahoddiad ac aeth o amgyich y wlad, a
dewisodd fan ar wastadeddau unig y Steppes, yn neheudir Rwsia, lle nad
oedd and bugail a’i gi i’w gwelod. Ond yr oedd y lle hwn yn gyfoethog
mewn glo a haearn, ac heb fod ymhell o Daganrog a Mariupol,
porthladdoedd ar fôr Azov. Nid oedd mwngloddiau haearn Krivoi-Rog ymhell
iawn a daethant hwythau yn eiddo I Gwmni Newydd Rwsla. — y Novorossiskoe
Obshchestvo, a ffurfiwyd yn 1869. ‘Rwy’n cofio i ni ymwe1ed a
Chrivoi-Rog yn 1892.
Yn 1889 pan gyrhaeddais Hughesovka
yr oedd y boblogaeth wedi cynyddu o ddim i oddeutu hanner can mil,
(50,000) a’glofeydd a’r gweithfeydd haearn a dur ar lawn waith. Mae
Stalino n’awr yri un o brif ganolfarmau rheilffyrdd dyffryn Donetz, ond
yn1889 yr unig reilffyrdd i’r de oedd iTaganrog a Mariupo1 – y stesion
agosaf ar llinell i’r gogleddd trwy Charkov oedd Charsisky. Yr oeddom yn
dyrfa o bob gwlad ac laith — ( Rwsiaid, Pwyliaid, Ellmyn, Belgiaid~
Iddewon, Tartariaidd a Georgiaid o Tiflis yn y Caucasus cartref Stalin)
ac yn eu mysg gwnni bychan o Saeson a Chymry. Daeth John Hughes a
gweithwyr profiadol. gydag e o Ddowlais, Merthyr a Rhymney yr amser
hwnnw yr oedd tua deg a thrigan o Gymry yno, ond clywais fod yna fwy un
adeg. ‘Rwy’n cofio rhai ohonynt Mr. Watkins a briododd Miss
Curtis o Rhymney. Mr. Holland a fu yn Gemiat yng ngweithfeydd Dowlais, y
teulu James ac erail]. • Ond y gwr a gofiaf orau oedd John John o
Ddowlais, Cymro o’r math gorau, dyn y gellid ymddiried ~ynddo’n
drvryadl. Byddwn yn mwynhau siarad gydag e yn Gymraeg. Yr amser yna nid
oedd y gweithwyr yn cael eu talu ond un waith y mis ac yr oedd arian y
cyflogau yn dod o Daganrog o dan warchod. Bu John Hughes farw ym Mehefln
1889, ychydig fisoedd cyn i mi gyrraedd Hughesovka fel athrawes i ddwy
ferch Ifanc Mr. a Mrs. Arthur Hughes. Yr ail o bedwar mab John Hughes
oedd Arthur Hughes; a ‘r wraig oedd Miss Augusta James o Lanovor, Sir
Fynwy. Diddorol i lawer Cymro ydyw’r ffaith mai’r bardd Islwyn a’u
priododd. Gyda llaw trwy bregethwr mawr arall y Parch. Dr. Saunders,
Abertawe, yn an-union~gyrcho1, y cefais i’r cyfle i fynd i Rwsia.
Cofiaf y daith hir araf gyda’r
teulu trwy Ewrop, gan aros rhai dyddiau yn Berlin, Warsaw (lle y collais
fy ffordd a chael fy hunan yn y Ghetto), wedyn Kieff a Charkov Daw
darlun byw o dref hynafol. a sanctaidd Kieff o flaen fy llygald;
croesi’r afon lydan y Dnieper, ac edmygu’r llu mawr o eglwys I gyda’u
tyrrau a tu domes euraidd yn disgleirio yn yr awyr las,
Gwelais yno dorf o bererinion wedi cerdded ar hyd y ffordd o Siberia
bell. Yna Charkov gyda’i Phrifysgol ardderchog a’i ffeiriau byd-enwog, O’r
diwedd cyrraedd gorsaf Charsisky wedi llwyr flino. Yno yr oedd cerbydau
yn in cyfarfod i fynd â ni i Hughes ovka. Nid anghofiaf byth y teimlad
o unigrwydd llethol a’m llanwodd wrth deithio dros wastadoddau llwm,
digoed, diderfyn y Steppes; dim rhyfedd i hiraeth am Gymru bron fy llwyr
orchfygu.
Ond bu’r diddordob yn y
bywyd diarth oedd o em hamgylch a’r awydd naturiol i weld popeth newydd
yn help i mi deimlo’n gartrefol Hughesovka. Yr oeddem yn byw mewn tý’
mawr ynghanol gardd eang a waliau uchol o’i gwmpas er mwyn diogelwch, ac
yr oedd yna wylwyr yn edrych ar o1 y lle dros y nos, ond ni eflid
dibynnu arnynt bob amser.
Nid oedd bywyd yno yn anniddorol
nac heb amrywiaeth. Cymerai llythyrau a phapurau o gartref tuag un
diwrnod ar ddeg i’n cyrraedd ac yn amyl yr oeddynt wedi eu sensro. Ni
chianiateid i rai llyfrau i ddod i mewn i’r wlad.
~
Deuai ymwelwyr yno o bob gwlad ac
iaith, engineers a myfyrwyr o Foscow, Petersburg (Leningrad nawr) ac hyd
yn oed o Siberia bell. Unwaith daeth Llywodraethwr Talaith
Ekaterinoslav, Dnepropotrovsk y’i gelwir nawr i aros gyda ni.
Cyrrhaeddodd y tý gyda seromoni mawr yn cael ci hebrwng gan gwmni o
Gossacks ar geffylau. Yr oedd gan rai ymwelwyr straeon oedd yn ddiddorol
a chyffrous lawn i ferch ifanc fel fi. Dyma’r amser y gelwid y
chwyl-dro-ad-wyr yn Nihilists. Dywedwyd wrthyf fy mod yn nabod rhai o
honynt ac r‘wyf yn cofio yn dda i mi gael fy rhybuddio am siarad geiriau
di-ofal, yn hollol ddiniwed, gan na wyddem pwy fyddai ymysg yr ymwelwyr
i’r tý. Yr oedd y polis yn arolygu ac edrych i mewn i bobpeth yn fanwl
iawn, a rhaid. oedd bod yn ofalus. Yr oeddynt yn strict iawn wrth
chwilio ein passports. Yr wyf wedi cadw fy hen bassport sydd wedi ei
arwyddo gan yr Arglwydd Salisbury- prif weinidog yr amser hynny. Yr
oeddem yn gallu mwynhau ein hunain mewn sawl ffordd. Gwyddoch fod y
Rwsiaid yn gerddorion a chantorion ardderchog. Un waith bob wytbnos yr
oeddem yn clywed miwsig o’r radd uchaf ac yn aml yn caol y fraint o
glywed boneddiges Polish Madame Yancharski yn canu’r piano.
Yr oedd hi wedi bod yn ddisgybl i Rubinstein ac yr oedd Paderewski yn un
o’i chyfeillion.
Nid anghofiaf byth y canu godidog
yn yr Eglwys Roegaidd yn Hughesovka. Daeth y newydd yn ddiweddar fod
Stalin wedi cydnabod Patriarch yr Eglwys yn Rwsia ag atgofion o lawer
gwasanaeth y bum ynddo, yn enwedig gwasanaeth y noson cyn y Pasg.
Gwnaeth y gwasanaeth hwn gyda’i seremoni a miwsig ardderchog y côr, yn
enwedig lleisiau dwfn y Bass argraff ddofn arnaf. Yr oedd yr olygfa tu
fewn i’r eglwys yn llanw un ag ysbryd addoliad. Yr oedd yr eglwys yn
orlawn, pawb yn sefyll a chanwyllau yn eu llaw; nid oes seti yn yr
Eglwys Roegaidd. Ar ganol nos, fe darawa cloc yr eglwys, yna daw’r
offeiriaid yn. eu gwisgoedd hardd ysblenydd a chanant “Cyfododd Grist.”
Penlinia pob un o’r gynulloidfa, ymgroesa, ac ateba “yn
ddiau fe a gyfododd;” yna fe gân y côr emyn arbennig y Pasc; mae’r
holl glychau yn canu a’r eglwys i gyd yn disgleirio â
goleuadau prydferth. Yna cyfarcha pob un ei gilydd â thri chusan a
bloeddiant yn llawen “Cyfododd Crist,” a bydd pawb yn cydorfoleddu.
Anodd peidio edmygu y dull manwl y cedwir ympryd y Grawys (Lent) ond cyn
gynted y byddai gwyl y Pasc drosodd yr oeddynt yn ymroddi yn ormodol i
wledda a byddai’r ysbyty yn llawn,
Un o'n prif bleserau
oedd hela - yr oedd yno faint a fynner o lwynogod a ‘sgyfarnogod, ond ni
chaniateid i ni’r merched uno i hela bleiddlaid o herwydd y perigl.
Byddai swyddogion y Cossacks yn aml yn dod allan gyda ni ac yr oeddent
yn gallu marchogaeth yn rhyfedd. Yr oed y cŵn hela wedi dod o ystad y
Court, Merthyr Tydfil a chan fy mod i wedi bod yn ddisgybl yn ysgol y
Court, Morthyr. o dan y tair Misses Edwards, yr ooddwn yn teimlo
diddordeb yn y cŵn.
Nid anghofiaf chwaith y sglefrio ar
lyn y gwaith, a’n teithiau ar sledges dros yr eira disglair, gyda
chlychau’rtroika, y tri ceffyl yn canu’n felodaidd yn yr awyr glir. Yr
oedd yna dipyn o flas anturiaoth mewn sledgo dros y steppes, gan y
byddai llawer o gŵn hanner bleiddiaid weithiau yn ein dilyn a rhaid oedd
i Ivan, in gyrrwr ddefnyddio’r whip I’w cadwtn ôl.
Pan oeddwn yn byw yn Rwsla nid oedd
ond dau ddosbarth o bobl. Yr oeddem ni mewn safle i weld y gwahaniaeth
mawr oedd rhwng y ddau. Yr oedd safon bywyd ymysg y mujiks -
y bobl gyffredin yn isel iawn ac nid oedd newyn yn beth anghyffredin
mewn rhai ardaloedd. Yr oeddynt yn byw mewn tai bychain gwael o goed,
gydag un llawr. Nid oedd yno ddim cyfleusterau i sicrhau cysur ac iechyd
ond yn unig stove fawr oedd bron yn llenwi’r ystafell. Arni
hi yn aml y cysgent y nos. Wrth gwrs yr oedd tai y gweithwyr yn
Hughesovka yn llawer iawn gwell. Ymhob ty chwi welech Ikon sef darlun
cysegredig ac nid yw un ty heb ei Samovar, lle stri I wneuthur tê. Yr
oeddwn yn hoffi’r mujiks; yr oeddynt yn garedig, yn ddidaro, yn wir
grefyddol mewn ffordd syml a diniwed. Gwynebant bob amlwc heb rwgnach –
Nitchevo” meddant gan godi eu hysgwyddau. Yr oeddynt yn amyneddgar a
chall, yn llawn o synnwyr cyffredin a hiwmor. Ond fe1 pob Rwsiad yn
ofergoelus iawn.
Ar nosweithau pryd oedd y tywydd in
braf, byddent yn cyfarfod a’i gillydd tu faes pentref - yna byddent yn
siglo ar swings a chanu gan daro dwylo, a bron wastad yn bwyta hadau
sunflowers. Byddent yn hoff iawn o ddawnsio ac yr oeddent yr mwynhau
bywyd cymdeithasol gyda’i gilydd. Rhaid dweud fod pawb yn hoff o’r
dcliod gyffredin “ Kvass” ac os gallant ei gael y ddiod gryfach byth “
Vodka.”
Ar wyliau arbennig yr oedd yn
bleser edrych ar y merched yn eu gwisgoedd prydferth, y brodwaith arnynt
yn gywrain a thlws, eu gwallt wedi eu blethu’n hardd a
ribanau a beads o bob 11iw am eu gyddfau. ‘Rwy’n cofio’n arbennig un tro
pan oeddem yn mynd mewn sledge dros wastadedd y steppes inni glywed draw
yn y pellter ryw ganu trist yn torri an y distawrwydd – pobl y pentre
oeddynt yn canu am wrhydri eu cyndadau. Ni allwn anghofio ei swyn am
amser maith a byddai fy meddwl yn hedeg yn ol i Gymru a’i. thonau lleddf
a hiraeth eto yn codi yn fy mron. Yr oedd y dosbarth hwn y pryd hynny
heb allu darllen. Un o’r amryw bethau atm tarawodd yn y dref
ar y cyntaf oedd y signs ar bob siop; danlunlau oeddynt ac nid goiriau,
er esiampl, an siop y cigydd gweloch lun buwch neu ddafad, ac felly an
bob siop y rheswm wrth gwrs oedd na allent ddarllen. Mae cyfnewidiad
mawr wedi dod ar y wlad yn hyn o beth. Ar fore Sul y cynhelid y
farchnad, a gwelid y sgwâr o amglych yr Eglwys o chwech otr
gloch y bore ymlaen yn llawn o bobl y wlad gyda’u cynnyrch • Yr oedd
pris pethau yn rhad iawn, ‘wydd neu dwrki am swillt a chyw am
chwecheiniog. Wrth gwrs mewn kopecks a roubles y talwyd am danynt
Mewn cyferbyniad ‘r’ oedd y
dosbarth arall yn elthriadol o ddiwylliedig. Yr oeddynt-yn byw mewn tai
mawr ar eu ystadau gyda nifer fawr o weithwyr a morwynion. Gallent
siarad sawl iaith ac yr oeddont yn darllen yn ehang. Synnwyd fi fwy
nag unwaith eu bod yn gwybod gymaint am brif ysgrifenwyr Saesneg y dydd.
Yr awdwr Rwsiad y sonient am dano fwyaf oedd Pushkin, ond ychydig a
glywais ganddynt am Tolstoi. Frangêg oedd eu hail iaith a chlywais bron
fwy o Ffrangêg nag a Rwieg. Iaith galod oedd Rwsiog i ddysgu. Fel y
dywedais yr oeddent yn hoff iawn a fiwsig a dawnaio ac yn rhy hoff o
chawareu cardiau. Pobl ddiofa a --fater oeddent ond eto yn garedig dros
ben a llawer o swyn y perthyn iddynt.
Ni chaniata amser i mi sôn am lawer
o arferion diddorol araf y wlad; nac am y tywydd eithafol - gwres
llethol yr hâf, oerni llym ac eira dwfn y gaea’hu Clywais i wr ifanc o
Rhymney golli ei fywyd mewn storm o eira sydyn ac enbyd. Deuai gwres
tanbaid yr haf â llawer o afiechyd fel, Dysentery. Bu bron i ml farw o’r
clefyd hwn ond am ofal meddyg a Armeniad a oedd yn un o ddoctoriaid
Ysbyty’r Gwaith.
Yn 1892 daeth y Cholera i’r dre a
gorfu i ni’r teulu iffoi o’r lle a herwydd y Riots a achoswyd trwy ofn
ac anwybodaeth. y bobl. Yr oedd y Riots yn ddigon pwysig i Bapurau
Llundain eu croniclo. Ond er gorfod gadael Rwsia fel hyn, mewn brys,
teimlwn yn eitha trist wrth ganu ffarwel i lawer o ffrindiau yno. ‘R’oeddwn
wodi cael caredigrwydd rhyfedd gan lawer yn enwedig gan Mr. a Mrs •
Arthur Hughes, ac yr oeddwn wedi dod i garu’r wlad a’i phobl,
ac yn y dyddiau diweddar hyn yr wyf yn llawenhau yn llwyddiant eithradol
y Rwsiaid.
|