Eang iawn fu cylch ei wasanaeth a'i gymwynasgarwch ar hyd
ei oes faith, ond fe soniaf i yn awr am ei gysylltiad a'r Gorfforaeth
Ddarlledu. Yr oedd ef yn un o'r rhai cyntaf yn ein plith i ganfod
cymaint y gallai darlledu ddylanwadu er gwell neu er gwaeth ar fywyd
Cymru ac yr oedd yn hollol nodweddiadol ohono mai trwy gyd-weithio a
chynorthwyo yn y dirgel yn hytrach na trwy ymfflamychu ac areithio yn yr
amlwg y gwelai Edgar Jones ei ffordd i ddangos ei ddiddordeb. Bu'n
gynghorwr doeth chytbwys yn y blynyddoedd anodd cyn sefydlu Cymru fel
uned darlledu ar wahan i Orllewin Lloegr ac wedi hynny llafuriodd yn
ddiwyd i sylfaenu darllediauau Cymraeg I Ysgolion ac i drefnu darlledu
gwasanaethau crefyddol. Ond yr oedd yr barod ei gymorth a'i gymwynas
ymhob adran o’r gwaith - cymerai ran yn y stiwdio os byddai galw,
darllenai'r newyddion, cyflwynodd amryw byd o siaradwyr ar y radio, ac
yr oedd stamp ei gymeriad bonheddig ar bobeth a wnai. Ifanc ei ysbryd,
eang ei ddiddiordebau as charedig ei galon, fe ymhyfrydai yn y
newydd-beth hwn - y radio, a charai gwmni'r pobl ifainc a ymgasglai yn y
Ty Darlledu. Hoffent hwy ei gwmni yntau yr oedd neb yn cael gwell croeso
na Major i ymuno â'r cmwni dros gwpanned o de yn y cântin neu i chware
tennis ar fwrdd yn y clwb. Anodd oedd credu ei fod yn hen o ran oedran
ac yntau hyd yn ddiweddar mor hoenus a sionc o ran corff ac ysbryd, a
chaem dipyn o sioc ar ganol sgwrs am beldroed neu chware arall i 'w
glywed yn sydyn yn sôn am ryw gem a fu yn 1882 neu 1883, a deall ei fod
yn adnabod cewri o 'r oesau a fu.
Gwr caredig ydoedd heb fymryn o falais yn ei
galon.Unwaith erioed y gwelais i ef wedi colli ei dymer ond ni allai fod
yn gas hyd yn oed y pryd hynny. Yr oedd clymblaid o wŷr wedi cipio pob
swydd a sedd ar bwyllgor o Gymeideithas a oedd yn agos iawn at galon
Major Edgar, ac yr oedd yn ddig nid am eu bod wedi ennll y dydd ond am y
gwyddai nad budd a lles y gymdeithas honno oedd yn eu cymell ond eu
buddiannau gwleidyddol hwy eu hunain, ac ni fu llewyrch ar y gymdeithas
honno byth wedyn. Yr oedd yn gas ganddo hen driciau cyfrwys dichellgar.
Yr oedd ef ei hun mor agored, mor onest, mor ddidwyll a phlentyn bach -
hyn yn ddiau a'i cadwodd yn ifanc a hoyw hyd y diwedd.
Hefyd Loss to Welsh
Radio
Return to
Biography